CATEGORIAU...
Cefndir y gwobrau
Credai Jo fod gennym ni fwy yn gyffredin nag sy'n ein rhannu a sefydlwyd y wobr hon i dynnu sylw at y gwaith gwerth chweil sy'n digwydd ledled Cymru ar y materion a oedd mor agos at galon Jo.
Ni allaf feddwl am unrhyw ffordd well i ddathlu gwaddol Jo, a lledaenu ei neges o undod a thosturi, na thrwy dalu teyrnged i'r gweithredoedd caredig ac anhunanol sy'n digwydd yn ein cymunedau bob dydd.
Rwy'n falch iawn fy mod wedi gweithio ochr yn ochr â Jo. Roedd hi'n berson hyfryd a fu'n gweithio'n ddiflino dros fyd tecach, mwy caredig a mwy goddefgar.
Credai’n angerddol y gellid goresgyn hyd yn oed yr heriau mwyaf; rwy’n credu y bydd y bobl anhygoel sy’n cael eu dathlu yn y gwobrau hyn yn profi hynny.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn enwebu'r bobl eithriadol sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned chi!

Pencampwr
Cymunedol
Bydd y wobr hon yn cael ei chyflwyno i unigolyn, tîm lleol neu grŵp o wirfoddolwyr sy'n gwneud gwahaniaeth i'w cymuned trwy wella amwynderau neu ansawdd bywyd i drigolion lleol. Mae'r categori yn agored i unigolion, elusennau lleol neu fudiadau gwirfoddol sydd, trwy roi o’u hamser hamdden, yn cyfrannu'n sylweddol at fywydau eraill yn eu cymuned. Er enghraifft, trwy godi arian ar gyfer cyfleusterau gwell neu drefnu digwyddiadau cymunedol.
Gall enwebeion, er enghraifft, fod yn rhedeg clwb lleol, efallai y byddant yn trefnu sesiynau casglu sbwriel yn y gymuned neu’n ymgyrchu am well gwasanaethau. Byddant yn gweithio i wella a/neu ddylanwadu'n gadarnhaol ar fywydau ac amodau byw unigolion yn eu hardal. Gallai fod yn berson rydych chi'n troi ato neu ati mewn argyfwng neu’n dîm sy'n gyfrifol am gadw'ch cymuned yn ddiogel. Efallai eu bod wedi mynd yr ail filltir a thu hwnt i’w dyletswydd neu wedi gwneud cyfraniad eithriadol i helpu'r rhai maen nhw’n eu gwasanaethu.
Rydym yn chwilio am dystiolaeth i ddangos sut mae hyn wedi gwneud y gymuned yn lle gwell neu’n lle mwy diogel i fyw.
Pencampwyr Mynd i’r Afael ag Unigrwydd
Bydd y wobr hon yn cydnabod unigolion, grwpiau a sefydliadau sy'n gweithio i oresgyn unigrwydd ac unigedd.
Bydd enwebeion cymwys yn cynnwys prosiectau a mentrau sy'n hyrwyddo lles meddyliol trwy ymgysylltu â chyfoedion; elusennau a grwpiau sy'n darparu gwasanaethau cyfeillio, cynlluniau sy'n annog cyfranogiad a gweithgareddau grŵp ac yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol; gwasanaethau cynghori, darpariaeth cwnsela; pobl sy’n codi arian; ymgyrchwyr a'r rhai sy'n darparu cymorth 1 i 1 i grwpiau ac unigolion bregus.
Mae'r categori yn agored i bob elusen, mudiad gwirfoddol a grwpiau cymunedol.
Rydym yn awyddus i glywed sut mae pobl wedi dod at ei gilydd i ddarparu cwmnïaeth a chefnogaeth.
Pencampwyr Menywod
Bydd y wobr hon yn cael ei chyflwyno i unigolyn, tîm neu grŵp lleol sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau menywod. Mae'r categori hwn yn agored i elusennau lleol, neu sefydliadau gwirfoddol sydd, er enghraifft, yn ymwneud â hyrwyddo hawliau menywod, codi arian ar gyfer cyfleusterau gwell ar gyfer achosion menywod neu’n trefnu digwyddiadau cymunedol i ennyn diddordeb pobl mewn materion sydd o fudd uniongyrchol i fenywod.
Rydym am glywed eich straeon ysbrydoledig am bobl ysbrydoledig.
Dewch i gwrdd â'r beirniaid...

Steve Francis
Golygydd Newyddion Cymru
Global | Heart Radio

Menna Richards
Cyn-Gyfarwyddwr
BBC Cymru

Catrin Pascoe
Golygydd
Western Mail
Rhaid i'ch enwebiadau gael eu cefnogi gan eich AC neu AS lleol.
Gellir cyflwyno enwebiadau trwy'r wefan, e-bost neu yn y post.
Bydd pob cais yn cael ei feirniadu gan y panel uchod.
Cysylltir â'r enillwyr yn uniongyrchol a byddant yn cael eu gwahodd i fynychu digwyddiad gwobrwyo amser cinio yn y Senedd, Bae Caerdydd ar 2 Gorffennaf 2018.
(Gofalwch fod gan enwebeion y modd i fynychu ac y byddent ar gael ar y dyddiad hwn)
Rhaid gwneud pob cais cyn 22 Mai 2018.